Robert GwyndafWILLIAMSDymuna Ruth, Raymond, Bethan a theulu'r diweddar Robert Gwyndaf Williams, 24 Caeau Bach, Hendre, Caernarfon, ddiolch i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad tuag atynt. Diolch hefyd am garedigrwydd aelodau Capel Seilo, ffrindiau a chymdogion triw, mae hyn yn gysur mawr i Ruth a'r teulu yn eu galar a'u hiraeth. Hoffai'r teulu ddiolch am wasanaeth arbennig y Parchedigion Anna Jane Evans, Gwenda Richards, Carys Ann Lewis, Mr Geraint Clwyd-Jones, ac i gwmni Gwilym Jones a'i fab am drefniadau cwbl broffesiynol. Gwnaed casgliad ariannol er cof am Robert tuag at 'Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru' ac mae'r teulu'n ddiolchgar iawn i bawb.
Keep me informed of updates